Jeremy Hunt
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt wedi cyfaddef bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn Lloegr dan “bwysau aruthrol”.
Daw ei sylwadau wrth i ffigurau gael eu cyhoeddi sy’n dangos bod amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn ysbytai Lloegr heb gyrraedd targedau’r Llywodraeth.
Dim ond 92.6% o gleifion oedd yn cael eu gweld o fewn y targed o bedair awr yn y cyfnod rhwng mis Hydref a Rhagfyr, yn ol cofnodion GIG Lloegr.
Y targed yw gweld 95% o gleifion o fewn pedair awr.
Ond mae Jeremy Hunt yn mynnu bod naw o bob 10 o gleifion yn cael eu gweld o fewn pedair awr “sy’n well nag unrhyw wlad arall yn y byd.”
Mae’r pwysau ar ysbytai yn Lloegr wedi arwain at nifer o ymddiriedolaethau yn cyhoeddi eu bod mewn sefyllfa ddifrifol ac yn methu ymdopi gyda’r cynnydd yn nifer y cleifion.
Wrth siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4 dywedodd Jeremy Hunt bod diogelu cleifion yn bwysicach na chyrraedd targedau.
‘Angen arolwg’
Mae’r gweinidog iechyd, Norman Lamb, wedi cyfaddef nad yw’r GIG yn cyrraedd ei dargedau a bod angen arolwg o’r gwasanaeth.
“Rydym yn byw yn hirach ac mae pwysau ar ysbytai gan bobol oedrannus sydd ag afiechydon cronig,” meddai Norman Lamb.
Fe ychwanegodd y gweinidog: “Os yw unrhyw un yn meddwl bod pethau am newid o dan reolaeth y blaid Lafur, maen nhw’n byw mewn gwlad ddychmygol.”