Mae nifer y bobol sydd wedi prynu tŷ am y tro cyntaf ar ei lefel uchaf ers saith mlynedd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mewn ymchwil gan gwmni Halifax, daeth i’r amlwg bod 22% yn fwy o bobol ym Mhrydain wedi prynu eu tŷ cyntaf yn 2014 – sy’n ychwanegol i’r cynnydd o 23% a welwyd y flwyddyn gynt.
£171,870 oedd cost gyfartalog tŷ i berson oedd yn prynu am y tro cyntaf, sy’n 9% yn fwy na’r llynedd.
Yng Nghymru, mae’r Gweinidog Cymunedau, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi bod 1000 o gartrefi wedi’u prynu drwy gynllun y Llywodraeth, Cymorth i Brynu:
“Rwy’n falch dros ben bod 1,000 o gartrefi wedi’u prynu’n barod drwy Cymorth i Brynu – Cymru, a 400 eiddo arall yn mynd i gael eu hadeiladu’n fuan iawn,” meddai.
“Yn ogystal â helpu pobol i brynu cartref newydd mae’r cynllun hwn wedi bod yn newyddion da iawn i’r diwydiant adeiladu; mae cwmnïau bach a mawr yn cynnig benthyciadau ecwiti a rennir ar eu tai erbyn hyn, diolch i Cymorth i Brynu – Cymru.”