Y timau achub sy'n chwilio am weddillion awyren AirAsia
Mae’r ymgyrch i chwilio am weddillion awyren a blymiodd i’r dŵr dros wythnos yn ôl gan ladd 162 o bobol, wedi symud i’r dwyrain ohewryddcerrynt cryf yn ôl pennaeth yr ymgyrch.
Mae tywydd garw wedi ei gwneud hi’n anodd darganfod rhannau o’r awyren AirAsia a’r 125 o gyrff sydd yn dal i fod ar goll – roedd rhaid i ddeifwyr roi’r gorau i’r chwilio ddoe.
Fe ddiflannodd yr awyren wrth deithio o Surabaya yn Indonesia i Singapore ar 28 Rhagfyr yn ystod tywydd stormus. Mae 37 o gyrff wedi cael eu tynnu o’r môr hyd yn hyn.
“Mae gweithio’n gyflym yn hanfodol ond mae’n debyg ei bod hi’n anodd gweithio yn erbyn y tywydd,” meddai’r pennaeth Suryadi B Supriyadi.
Cosbi
Eisoes, mae gweinidog trafnidiaeth Indonesia wedi dweud y bydd mesurau llym yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai oedd wedi gadael i’r awyren hedfan heb y drwydded briodol.
Yn ôl swyddogion, doedd gan AirAsia ddim hawl i hedfan yr awyren ar 28 Rhagfyr am fod y drwydded wedi dod i ben. Ond mae swyddogion yn Singapore yn gwadu hynny.