Mae Heddlu Suffolk, sy’n ymchwilio i farwolaeth tri o bobol o ganlyniad i lyncu tabledi Ecstasi, wedi cyhuddo dyn o gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon.

Mae Adrian Lubecki, 19, o Ipswich, wedi gyhuddo hefyd o fod â chyffur Dosbarth B yn ei feddiant, gyda’r bwriad o’i gyflenwi i eraill.

Mae plismyn wedi bod yn ceisio annog y cyhoedd eto i ildio unrhyw gyflenwad o’r tabledi trionglog, coch gyda logo Superman arnyn nhw, wedi i ddyn 37 oed gael ei daro’n wael yn Ipswich heddiw, ar ôl cymryd y cyffur.

Mae hyn yn dilyn marwolaeth dau ddyn ifanc yn Ipswich ar Noswyl Nadolig ac yna ar Ddydd Calan, ynghyd â marwolaeth dyn arall yn Rendlesham, Suffolk.

Mae Adrian Lubecki wedi’i gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Ipswich fory.