Nigel Farage
Fe ddylai pob meddyg teulu o dramor sy’n dod i wledydd Prydain, basio prawf iaith, yn ôl arweinydd Ukip, Nigel Farage.

Mae nifer y meddygon sy’n methu siarad Saesneg cywir a chlir, yn broblem go iawn, meddai. Wrth ddweud hyn, fe amddiffynodd bolisi Ukip o rwystro pobol sy’n methu siarad Saesneg da rhag gweithio o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Onid ydan ni eisiau byw mewn gwlad lle mae pawb yn siarad yr un iaith?” meddai ar raglen Sky News heddiw.

“Ac onid yw hi’n sgandal nad ydyn ni’n hyfforddi mwy o nyrsus a doctoriaid yn ein gwlad ein hunain?

“Dw i ddim yn gwybod amdanoch chi, p’un ai ydach chi wedi bod at feddyg teulu sydd ddim yn siarad Saesneg yn dda ian, ond mae hyn yn rhywbeth y  mae pobol yn siarad amdano fo.

“Holl bwynt mewnfudo… ydi gwneud yn siwr fod y bobol yma’n integreiddio’n iawn.”