Mae dyn 32 oed wedi’i arestio wedi i ddyn arall farw yn dilyn ymosodiad y tu allan i glwb.

Fe gafodd yr heddlu a pharafeddygon eu galw wedi adroddiadau am ymosodiad difrifol yn Guildford neithiwr.

Fe gafodd y dioddefwr, yn ei 40au, ei gludo i Ysbyty San Sior yn Tooting yn diodde’ o anafiadau difrifol i’w ben, ond bu farw yno toc cyn 5 o’r gloch y bore, heddiw.

Mae dyn wedi’i arestio ac mae’n parhau i gael ei holi gan yr heddlu. Roedd y dyn hwn a’r dyn a fu farw, yn nabod ei gilydd.

Fe gafodd dau ddyn arall – y naill yn ei 50au a’r llall yn ei 20au – eu hanafu yn eu hwynebau yn ystod y digwyddiad.