Nadine Aburas (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru yn chwilio am ddyn o’r enw Sammy Almahri, wedi i gorff menyw gael ei ganfod mewn gwesty ym Mae Caerdydd ar Nos Calan.
Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Nadine Aburas, 28 oed, tua chanol dydd, ddydd Mercher, yng ngwesty’r Future Inn yn Ffordd Hemmingway.
Mae Sammy Almahri yn byw yn Efrog Newydd, ond fe gyrhaeddodd y Deyrnas Unedig ar Ddydd San Steffan, gan deithio i Gaerdydd ar Ragfyr 28 a mynd i aros i’r gwesty ar Ragfyr 30. Fe gyrhaeddodd Nadine Aburas, un o ffrindiau Sammy Almahri, 44, y gwesty tua 9yh y noson honno.
Ond fe adawodd ef y gwesty am 3 o’r gloch y bore, nos Calan, gan hedfan o faes awyr Heathrow i Bahrain am 10,30yb hwnnw. Mae heddlu yn credu y gallai, bellach, fod yn Tanzania.