Abu Hamza
Fe ddylid anfon y pregethwr o Lundain, Abu Hamza, i garchar meddygol oherwydd ei fod yn rhy anabl i dreulio gweddill ei oes yng ngharchar.

Dyna yw barn ei gyfreithwyr, wedi i’r drefn gyfreithiol yn America ei gael yn euog o helpu terfysgwyr a herwgipiodd dwristiaid yn Yemen yn 1998, ymhlith troseddau eraill.

Mae ei gyfreithwyr hefyd yn dweud y byddai caniatau i Hamza, sydd hefyd yn mynd dan yr enw Mustafa Kamel Mustafa, dreulio gweddill ei oes yng ngharchar Colorado, yn gam yn ôl o’r fargen gafodd ei tharo wrth ei ystraddodi o wledydd Prydain yn 2012.

Fe ddechreuodd Hamza, 56, bregethu ym Mosg Finsbury Park, ac fe’i cafwyd yn euog ym mis Mai y llynedd o fod â rhan mewn gweithredoedd terfysgol. Mae’r drefn ffederal o ddedfrydu yn America yn galw ar iddo dreulio dim llai nag oes dan glo.