Mae dyn wedi marw mewn safle bws y tu allan i orsaf drenau brysuraf gwledydd Prydain.
Fe gafodd yr heddlu eu galw wedi adroddiadau fod dyn wedi diodde’ ymosodiad ger gorsaf Waterloo yn Llundain tua chwarter i dri o’r gloch fore heddiw.
Fe ddaeth y plismyn a dynion ambiwlans o hyd i’r dyn yn ei 40au gydag anafiadau difrifol iawn i’w ben. Roedd wedi marw yn y fan a’r lle.
Fe gafodd dyn 29 oed ei arestio gerllaw ar amheuaeth o lofruddiaeth. Mae’n parhau yn y ddalfa yn un o orsafoedd heddlu de Llundain.
Dydi heddlu Scotland Yard ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad a’r digwyddiad.