Tabledi ecstasi
Mae pedwerydd dyn wedi marw ar ôl cymryd cyffuriau y mae’r heddlu yn credu a allai fod wedi dod o gnwd peryglus o ecstasi.

Daethpwyd o hyd i’r dyn 27 oed mewn eiddo yn Woodside Road yn Ketley, Telford, ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn newydd.

Cred yr heddlu bod y farwolaeth, o bosib, yn gysylltiedig gyda thri arall yn Suffolk.

Meddai llefarydd Heddlu Gorllewin Mercia: “Cred yr heddlu y gallai’r dyn fod wedi marw wedi iddo gymryd cyffur anghyfreithlon sy’n cael ei ddisgrifio fel tabled coch siap triongl gyda logo Superman arno. Mae hefyd wedi ei ddisgrifio fel siap cylch.

“Mae Heddlu Suffolk yn ymchwilio i achosion tebyg sydd wedi digwydd dros y dyddiau diweddar.”