Mae teyrngedau wedi eu rhoi i adeiladwr a laddwyd mewn ymosodiad honedig gyda chyllell a bwyell.

Bu farw dyn yn gynnar ar fore cynta’r flwyddyn mewn tafarn ym mhentref Tamerton Foliot yn Nyfnaint.

Fe orlifodd yr  anhrefn o’r dafarn i lawnt y pentref.

Mae dau ddyn , 20 a 21 oed, wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio wedi i ddyn 27 oed ddiodde’ anafiadau difrifol a marw.

Mae trigolion lleol wedi talu teyrnged i Tanis Bhandari a son am eu sioc ar dudalen Facebook y dafarn leol, The Kings Arms.

Meddai Lee Ryder: “Fedra i ddim  coelio bod hyn wedi digwydd, fe wnes i dyfu fyny efo Tanis, mae o wastad wedi bod yn garedig, bydd gwir golled ar dy ôl…”