Canolfan Gymraeg Wrecsam
Ar drothwy gêm gwpan fawr, mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi ei ddisgrifio fel esiampl o’r ysbryd cymunedol sydd ar waith yn y dref.
Yn ôl Cadeirydd Canolfan Gymraeg y dref, Wrecsam yw “prifddinas cydweithredol” Cymru.
Y cefnogwyr sydd biau’r clwb pêl-droed ac hefyd mae gan y dref dafarn gydweithredol, canolfan hamdden gydweithredol newydd a 12 o siopau bwyd cydweithredol yn yr ardal.
Mae dros 4,000 o gefnogwyr Wrecsam wedi buddsoddi yn y fenter gydweithredol i gynnal a pherchnogi’r clwb.
A’r disgwyl yw y bydd miloedd o gefnogwyr Wrecsam yn heidio i Stadiwm Britannia yn Stoke ddydd Sul i weld gêm fwya’ eu tîm hyd yma y tymor hwn.
Mae’r clwb o Gymru yn herio un o gewri Uwch Gynghrair Lloegr yng Nghwpan yr FA.
Un o feibion enwoca’ Wrecsam, Mark Hughes, yw rheolwr Stoke City.
‘Prifddinas cydweithredol’ Cymru
Mae cannoedd o drigolion y dref wedi buddsoddi yn nhafarn gydweithredol Y Saith Seren. Agorwyd yn 2012 yn sgîl ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol a bellach mae yno ganolfan sy’n dathlu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig.
Yn ôl Cadeirydd Y Saith Seren, Marc Jones, mae’r ffaith fod cymaint o adnoddau’r dref ym meddiant y bobol yn golygu mae “Wrecsam yw prifddinas cydweithredol Cymru ac mae’n esiampl wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan mae cymunedau yn cydweithio.”
Ychwanegodd Shan Rogers, rheolwr Siop Fwyd Gydweithredol: “Mae yna deimlad gwych o gydweithio yn y dref ac mae hynny wedi dod yn amlycach wrth i’r gêm fawr agosau.”