Mae’r gwesty ola’ o’i fath – sydd ond yn rhoi llety i bobol ddall –  ar fin cau ei ddrysau am byth.

Mae Cymdeithas Frenhinol y Deillion yn dweud nad yw’n gallu fforddio parhau i gadw Gwesty’r Belmont ar agor yn nhref glan-y-môr Llandudno.

Dim on cyfran fechan o’r ‘stafelloedd sy’n llawn gydol y flwyddyn, meddai’r Gymdeithas, a hynny oherwydd bod gwestai cyffredin yn rhoi gwell croeso a chyfleusterau i’r deillion erbyn hyn.

Mae’r Belmont wedi ei werthu a bydd yn cael ei adnewyddu cyn agor eto fel gwesty arferol.

“Fe wnaethon ni geisio cadw’r gwesty ar agor am gyn hired â phosib,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas y Deillion, Eileen Harding, “ond y ffaith drist yw mae dim ond 10% o’r ‘stafelloedd sy’n cael eu defnyddio gydol y flwyddyn ac nid ydym yn gallu fforddio talu’r costau cynnal a chadw enfawr.”