Fe fu’n rhaid i awyren lanio’n ddirybudd ym Maes Awyr Manceinion heddiw, wedi i un o’r teithwyr ddechrau amharu ar bobol eraill, ac i deithiwr arall fynd yn sâl.

Mae llefarydd ar ran y maes awyr wedi cadarnhau fod yr awyren Qatar Airways ar ei ffordd rhwng Efrog Newydd a Doha pan laniodd yn ddiogel ym Manceinion yn dilyn “argyfwng meddygol bychan”.

Ond, wedi i’r awyren lanio, fe gafodd teithiwr gwrywaidd a oedd yn “amharu ar bobol eraill” ei dynnu oddi ar yr awyren Boeing 777.

Roedd hediad QR702 wedi cychwyn o Efrog Newydd tua 9.45yh neithiwr (amser lleol), ac roedd disgwyl i’r awyren lanio yn Doha tua 5yp heddiw.