Mae llys apêl yn yr Aifft wedi gorchymyn ail-gynnal achos yn erbyn tri newyddiadurwr Saesneg yr orsaf deledu, Al-Jazeera.

Mae Mohammed Fahmy (o Ganada), Peter Greste o Awstralia, a Baher Mohammed o’r Aifft, ill tri, wedi bod yng ngharchar ers iddyn nhw gael eu harestio ym mis Rhagfyr 2013.

Fe gawson nhw eu harestio wedi i’r cyn-arlywydd Islamaidd, Mohammed Morsi, gael ei orfodi o’i swydd.

Fe gafodd Fahmy a Greste eu dedfrydu i dreulio saith mlynedd dan glo, ac fe gafodd Mohammed ddedfryd o ddeng mlynedd. Mae mudiadau hawliau dynol yn dweud fod yr achos llys yn “sham”.