Mae meddygon sy’n trin nyrs o Glasgow a gafodd ei heintio gydag Ebola tra’n gweithio yn Sierra Leone yn dweud ei bod wedi cytuno i dderbyn cyffur arbrofol.

Mae Pauline Cafferkey yn cael triniaeth arbenigol yn Ysbyty’r Royal Free yn Llundain ar ôl iddi deimlo’n sâl tra’n hedfan o Heathrow i Glasgow nos Sul.

Dywedodd Dr Michael Jacobs bod Pauline Cafferkey yn cael ei thrin gyda gwaed gan berson oedd wedi gwella o’r firws ynghyd a’r cyffur arbrofol “sydd heb gael ei brofi ei fod yn gweithio.”

Fe ddatgelodd hefyd nad oedd yr ysbyty wedi llwyddo i gael y cyffur ZMapp, a gafodd ei ddefnyddio i drin y nyrs o Brydain, William Pooley, a oedd wedi gwella o’r firws, gan “nad oedd dim ar gael yn y byd ar hyn o bryd.”

Dywedodd Dr Jacobs bod Pauline Cafferkey “yn eistedd i fyny yn ei gwely ac yn siarad. Mae hi’n gallu darllen.

Mae’n bwyta ychydig, yn yfed, ac wedi bod mewn cysylltiad â’i theulu.”

Ychwanegodd y byddai’r dyddiau nesaf yn dyngedfennol ond eu bod wedi dechrau trin y nyrs yn fuan a bod hynny wedi rhoi’r “cyfle gorau” iddi.

Yn sgil yr achos, mae prif swyddog meddygol y Llywodraeth y Fonesig Sally Davies wedi dweud y bydd y broses o sgrinio gweithwyr iechyd sy’n dychwelyd i’r DU o orllewin Affrica yn cael ei adolygu.

Daeth i’r amlwg bod Pauline Cafferkey wedi dweud wrth swyddogion iechyd yn Heathrow ei bod yn teimlo’n sâl ond ei bod wedi cael parhau a’i thaith i Glasgow gan nad oedd ganddi unrhyw symptomau o Ebola.