Mae gweinyddwyr y cwmni dosbarthu City Link wedi cyhoeddi y bydd 2,356 o bobl yn colli eu swyddi ar ôl i’r cwmni fynd i’r wal.

Roedd nifer o staff y cwmni wedi clywed ar Ddydd Nadolig bod City Link wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ac wedi clywed y gallen nhw ddisgwyl “diswyddiadau sylweddol.”

Mae disgwyl i 80 o weithwyr y cwmni yng Nghymru golli eu swyddi.

Dywed y gweinyddwyr Ernst & Young y byddan nhw’n cadw 371 o staff er mwyn dosbarthu’r parseli sy’n weddill ac i helpu i ddod a’r cwmni i ben.

Yn ol y gweinyddwyr nid oedd cais i brynu’r cwmni yn dderbyniol.