Tan gwyllt yn harbwr Sydney yn Awstralia
Mae pobl ar draws y byd wedi dechrau dathlu’r Flwyddyn Newydd, gyda thrigolion yn Seland Newydd ac Awstralia ymhlith y cyntaf.

Bu arddangosfa tan gwyllt o’r Sky Tower yn Auckland yn Seland Newydd am hanner nos, a daeth 1.5 miliwn o bobl i wylio’r arddangosfa yn Sydney, Awstralia.

Daw’r dathliadau yn Sydney bythefnos yn unig ar ôl i ffoadur o Iran gymryd 18 o bobl yn wystlon mewn caffi.

Roedd teyrnged i’r ddau wystl gafodd eu lladd yn y gwarchae ar beilonau Harbour Bridge yn ystod yr arddangosfa tan gwyllt.

Er bod 3,000 o blismyn ychwanegol ar ddyletswydd, roedd pobl yn cael eu hannog i ddathlu’r Flwyddyn Newydd yn ol yr arfer.

Yn Indonesia roedd y dathliadau yn fwy tawel nag arfer yn dilyn damwain AirAsia a thirlithriad diweddar yn Java.

Mae maer Surabaya wedi gwahardd unrhyw ddathliadau gan fod y rhan fwyaf o’r 162 o bobl fu farw yn y ddamwain ddydd Sul yn dod o’r ddinas.

Mae cannoedd o drigolion y ddinas wedi bod yn cynnau canhwyllau mewn parc ac yn nodi munud o dawelwch i gofio’r rhai fu farw.

Yn Dubai, bydd yr adeilad uchaf yn y byd, y Burj Khalifa, yn cael ei oleuo gan 70,000 o baneli LED. Mae’r dathliadau yno fel arfer yn denu miloedd o bobl.