Y Farwnes Butler-Sloss
Mae’r Farwnes Butler-Sloss wedi dweud ei bod yn poeni na fydd y Llywodraeth yn gallu dod o hyd i berson digon profiadol i gadeirio’r ymchwiliad i honiadau hanesyddol o gam-drin plant.

Bu’n rhaid i Butler-Sloss ymddiswyddo fel cadeirydd yr ymchwiliad ym mis Gorffennaf am fod ei brawd, Syr Michael Havers, wedi bod yn dwrne cyffredinol yn yr 80au, a byddai ei weithredoedd wedi cael eu hymchwilio.

Wrth siarad ar raglen BBC Radio 4 dywedodd bod ganddi “gydymdeimlad dwys” a’r dioddefwyr ond bod caniatáu iddyn nhw benderfynu pwy ddylai gadeirio’r ymchwiliad “yn creu problemau mawr.”

Dywedodd y byddai unrhyw un sydd a’r cymwysterau a’r profiad perthnasol i gadeirio’r ymchwiliad yn cael eu cyhuddo o fod yn rhan o’r sefydliad.

Mae angen i ddioddefwyr gael eu cynrychioli ar y panel, meddai, ond ni ddylen nhw gadeirio’r ymchwiliad.

Beirniadu

Dywedodd hefyd ei bod yn sicr bod y sefydliad wedi ceisio celu ei rôl mewn achosion o gam-drin plant a bod y “sefydliad wedi edrych ar ôl ei hun.”

Ond ychwanegodd nad oedd hi’n credu ei bod hi wedi bod yn “anaddas” ar gyfer y swydd oherwydd y byddai ei rôl fel barnwr gyda 35 mlynedd o brofiad wedi ei chaniatáu i fod yn “annibynnol a dweud wrth bobl eu bod nhw wedi bod yn anghywir ac i fod yn feirniadol ohonyn nhw.”

Mynnodd y byddai hynny’n wir hyd yn oed petai hi’n gorfod beirniadu pobl oedd a chysylltiad agos a hi.

“Dyna’r ffordd y cefais i fy hyfforddi,” meddai, cyn ychwanegu, “ond rwy’n deall yn iawn os nad yw’r cyhoedd yn credu hynny.”