Mae o leiaf 53 o bobl wedi marw yn y Philipinau ar ôl i storm achosi llifogydd a thirlithriadau.
Roedd y rhan fwyaf o’r meirw yn byw yn nhaleithiau Samar a Leyte, a chafodd 10 o bobl eu lladd yn Tanauan, ardal a gafodd ei difrodi gan Deiffŵn Haiyan y llynedd.
Dywed timau achub bod o leiaf wyth o bobl ar goll ac mae 136,000 wedi ffoi o’u cartrefi i lochesi brys sydd wedi cael eu sefydlu.