Mae dau ddyn yn eu 20au wedi cael eu harestio a’u holi ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud a brawychiaeth.

Dywed Heddlu Swydd Bedford bod y ddau wedi cael eu harestio yn gynnar fore ddoe ar ôl i swyddogion o’r uned wrth-frawychiaeth gynnal cyrch mewn dau eiddo yn Bedford.

Cafodd eitemau hefyd eu cymryd o’r eiddo yn ystod y cyrch.

Mae’r dynion wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.