Un o faniau'r cwmni City Link (llun: PA)
Bydd swyddogion undeb yn cynnal trafodaethau gyda gweinyddwyr y cwmni dosbarthu parseli, City Link, yn Leeds y prynhawn yma, i geisio arbed swyddi.
Gobaith undeb yr RMT yw y byddan nhw’n gallu dod i gytundeb gyda’r gweinyddwyr Ernst and Young er mwyn osgoi colli bron i 3,000 o swyddi.
Cyhoeddodd City Link, sydd â thair canolfan ddosbarthu yng Nghymru – yn Abertawe, Caerdydd a Gaerwen yn Sir Fôn – eu bod nhw’n galw’r gweinyddwyr ddydd Nadolig ar ôl blynyddoedd “o golledion sylweddol”.
“Nod yr RMT yw gwneud popeth a allwn i arbed swyddi ar ôl y cyhoeddiad brawychus ddydd Nadolig,” meddai’r ysgrifennydd cyffredinol Mick Cash.
“Er gwaethaf tymor y gwyliau allwn ni ddim oedi cyn symud ymlaen gyda rhaglen arbed swyddi, a disgwyliwn i’r Llywodraeth trwy Vince Cable chwarae rhan lawn ar unwaith.
“Mae’r miloedd o weithwyr sydd wedi cael eu dal yng nghanol yr argyfwng yn haeddu cefnogaeth lawn o bob cyfeiriad.”