Angus Robertson AS (llun o'i wefan)
Mae arolwg barn arall yn dangos yr SNP ymhell ar y blaen i bleidiau eraill yr Alban.

Yn ôl yr arolwg o fil o bobl gan The Guardian/ICM online, mae 43% yn bwriadu pleidleisio i’r SNP yn etholiad San Steffan fis Mai nesaf, o gymharu â 19.9% o’r gefnogaeth a gafodd yn etholiad cyffredinol 2010.

Mae’r gefnogaeth i Lafur wedi disgyn i 26%, o gymharu â 42% yn 2010, a chefnogaeth y Ceidwadwyr wedi disgyn o 16..7% i 13%.  Mae’r gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi disgyn o 18.9% yn 2010 i 6%, a’r gefnogaeth i’r Blaid Werdd wedi cynyddu o 0.7% i 4%.

Dangosodd yr un arolwg bod mwy na hanner y rhai a holwyd (53%) yn credu y dylai’r Alban gael yr hawl i bennu ei lefelau treth gorfforaethol ei hun – rhywbeth nad yw’n cael ei argymell yng nghomisiwn Smith. Roedd 43% o blaid dileu Trident o gymharu 37% a oedd o blaid ei gynnal a 20% heb fod yn gwybod.

‘Calonogol iawn’

Wrth ymateb i’r arolwg, meddai Angus Robertson AS, cyfarwyddwr ymygrch etholiad cyffredinol yr SNP:

“Mae hwn yn arolwg canologol iawn arall i’r SNP, a dymai’r ail arolwg mewn wythnos i ddangos bod Jim Murphy wedi profi mis o surni yn hytrach na mis mêl fel arweinydd Llafur, gyda Llafur ymhell ar ôl yr SNP. Mae am gymryd mwy na newid arweinydd i newyd rhagolygon plaid sy’n talu’r pris am gynghreirio gwenwynig â’r Torïaid.

“Mae mwy a mwy o bobl yn rhoi eu cred yn yr SNP i sefyll dros fuddiannau’r Alban a sicrhau bod San Steffan yn cyflwyno’r pwerau sydd eu hangen i gryfhau a thyfu economi’r Alban a chreu cymdeithas decach.”