Llifogydd yn y Rhyl y llynedd ((Llun: PA)
Mae astudiaeth gan gwmni yswiriant wedi dangos bod mwy a mwy o bobl yn palmantu eu gerdd i greu lle parcio neu patio – neu i arbed y gwaith o arddio.

Yn ôl y cwmni yswiriant, LV=, mae’r llecynnau gwyrdd sy’n cael eu palmantu yn gyferth â lle i barcio dau gar i bob tŷ.

Dangosodd arolwg barn o dros 2,000 o berchnogion, ac astudiaeth o arolygon tai eraill, fod tueddiad cynyddol i balmantu, gyda dros hanner yn dweud bod arnynt eisiau creu patio neu le parcio neu dorri i lawr ar waith yn yr ardd.

Mae’r adroddiad yn rhybuddio bod tai mewn mwy o berygl o ddioddef llifogydd os bydd slabiau neu goncrit yn cymryd lle lawntiau gan fod arwynebau caled yn gyrru’r dŵr i rywle arall yn lle’i amsugno.

Meddai Selwyn Fernandes, rheolwr gyfarwyddwr yswiriant cartref LV=:

“Mae llifogydd o ganlyniad i ddŵr arwynebu yn broblem gynyddol i berchnogion tai, yn enwedig y rhein sy’n byw mewn ardaloedd trefol lle mae llai o lecynnau gwyrdd.

“Wrth i ddeunyddiau fel concrit a tharmac ddisodli gwelyau blodau a gwaith, nid yw dŵr yn gallu cael ei amsugno gan y ddaear ac mae hyn yn arwain ar lifogydd dŵr arwyneb.”