Fe wnaeth nifer y gyrwyr a gafodd eu dal yn goryrru yn ardal Heddlu De Cymru dreblu i 6,491 yn 2013, o gymharu â 2,181 dair blynedd ynghynt.
Dyma’r ardal a welodd y cynnydd mwyaf o blith holl ardaloedd heddluoedd Cymru a Lloegr.
Mae’r niferoedd a gafodd eu dal yn ne Cymru bron gymaint â’r 7,736 a gafodd eu dal yn Llundain i gyd. Hwn oedd y nifer isaf yn Llundain ers pum mlynedd.
Mae’n ymddangos mai parhau i dyfu’n gyflym mae nifer y gor-yrwyr yng Nghaerdydd wedi ei wneud ers cyfnod y ffigurau hyn.
Yn ôl y grwp diogelwch ffyrdd GoSafe Cymru, maear y gyffordd rhwng Ffordd Casnewydd a Colchester Avenue wedi dal 13,624 o yrwyr yn goryrru a 146 arall yn neidio goleuadau coch rhwng mis Ionawr a mis Mehefin yn eleni. Yn ystod y cyfnod hwnnw fe godwyd gwerth £800,000 o ddirwyon.