Mae lluoedd Pacistan wedi lladd 39 o wrthryfelwyr mewn cyrch o’r awyr ac ar y tir mewn ardal gythryblus ger y ffin ag Afghanistan.
Yn ôl llefarydd ar ran byddin y wlad, mae system o dwneli a phentyrrau o arfau a oedd yn cael eu cuddio o dan y ddaear hefyd wedi cael eu dinistrio.
Dywedodd fod llawer o ffigurau blaenllaw ymysg y gwrthryfelwyr a gafodd eu .lladd.
Mae newyddiadurwyr wedi cael eu gwahardd o’r ardal ac felly mae’n amhosibl cael cadarnhad annibynnol o’r newyddion.
Dywed y fyddin eu bod nhw wedi lladd dros 1,200 o wrthryfelwyr ers cychwyn ymosodiad mawr yn eu herbyn yng ngogledd Waziristan ar 15 Mehefin.