Y tro diwethaf y cafwyd eira cynddrwg â hyn ar yr A55 oedd ym mis Mawrth 2013
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio gyrwyr yn Wrecsam a Sir y Fflint i gymryd gofal arbennig ar ôl i eira trwm ddisgyn dros nos.
Mae adroddiadau am yrwyr yn cael trafferthion ar yr A55 rhwng Helygain a Rhuallt a’r Waun yn Sir Fflint ac ar Fwlch yr Oerddrws ar yr A470 ger Dinas Mawddwy.
Mae achubwyr mynydd hefyd rhybuddio cerddwyr i gymryd gofal arbennig yn Eryri ac i sicrhau bod ganddyn nhw’r offer priodol.
Roedd y Swyddfa Dywydd eisoes wedi rhoi rhybudd ambr ar gyfer gogledd Cymru, gogledd-orllewin a chanolbarth Lloegr neithiwr.
Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf, gogledd Lloegr sydd wedi cael ei tharo waethaf, gyda meysydd awyr John Lennon yn Lerpwl a Leeds Bradfor yn Swydd Efrog yn cau.
Fe fu’n rhaid i bob adael eu ceir yn Sheffield hefyd gan fod eu cerbydau wedi cael eu dal yn yr eira.