Llusernau'n cael eu gollwng i'r awyr mewn dathliad
Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi gwahardd pobol rhag rhyddhau llusernau awyr Tsieineaidd a swp o falwns i’r awyr o adeiladau a lleoliadau’r Cyngor.
Mae hyn, meddai’r Cyngor, oherwydd y dystiolaeth gynyddol o’r niwed y maen nhw’n ei achosi i’r amgylchedd ac i fywyd gwyllt.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cyng Bob Derbyshire: “Er fy mod i’n deall bod rhyddhau balwnau mewn swmp a llusernau awyr Tsieineaidd i elusennau’n olygfa a hanner, rhaid i bobol ddeall eu bod yn disgyn o’r awyr yn y pen draw.
“R’yn ni’n gynyddol bryderus y gallai da byw a bywyd gwyllt lyncu, neu ddod ynghlwm wrth wifren neu ffrâm fambŵ o lusern.
“Gall bywyd morol hefyd fod mewn perygl wrth i lusernau a balwnau syrthio i’r môr, gydag asiantaethau fel y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol yn adrodd eu bod wedi achosi nifer o danau, gan gynnwys un difrifol iawn yn Birmingham. Felly rhaid i ni fel cyngor ymddwyn yn gyfrifol.
“Er nad oes pwerau cyfreithiol yn bodoli i wahardd neu atal pobol rhag rhyddhau llusernau awyr na balwnau heliwm mewn swmp, byddwn nawr yn cyflwyno cod ymddygiad i holl adeiladau, lleoliadau a digwyddiadau’r cyngor, ac yn dod â’r gwaharddiad hwn i rym ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd.”