Mae Palas Lambeth wedi cadarnhau fod Archesgob Caergaint yn diodde’ o niwmonia. Dyna pam y bu’n rhaid iddo dynnu allan o roi ei bregeth Diwrnod Nadolig.

Fe fu’n rhaid i’r Gwir Barchedicaf Justin Welby fethu’r gwasanaeth blynyddol yn Eglwys Gadeiriol Caergaint ddoe, a hynny wedi dyddiau o fod yn teimlo’n anhwylus.

Ond, tra’r oedd y rhan fwya’ o’r bobol o’i gwmpas yn meddwl mai diodde’ o annwyd trwm.

Heddiw, fodd bynnag, daeth cyhoeddiad ar wefan gymdeithasol Twitter gan Gadeirlan Caergaint yn dweud: “Dyma gadarnhau fod Archesgob Caergaint @JustinWelby yn diodde’ o niwmonia ac yn gorffwyso gartre’. Diolch i bawb sydd wedi bod yn gweddïo drosto ac yn anfon eu dymuniadau da.”