Fe fu’n rhaid i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru dorri i mewn i fflat yn Abertawe ben bore heddiw, er mwyn achub tair dynes o dân.

Fe gawson nhw eu galw i ymladd y fflamau yn y fflat llawr cyntaf yn ardal Sain Helen toc wedi hanner nos.

Yn ôl datganiad gan y Gwasanaeth, fe fu’n rhaid defnyddio camera sy’n adnabod gwres corff er mwyn dod o hyd i’r tair dynes, ac yna fe ddefnyddiwyd offer anadlu er mwyn eu tynnu allan o’r adeilad.

Ar hyn o bryd, mae ymchwiliad yn parhau er mwyn ceisio dod o hyd i achos y tân.