Y Frenhines
Mae’r Frenhines wedi dweud y bydd hi’n cymryd amser hir i bontio’r gwahaniaethau yn yr Alban ar ôl pleidlais y refferendwm.

Dyna un o’r esiamplau a ddefnyddiodd wrth roi ei hanerchiad blynyddol a chanolbwyntio ar y syniad o gymodi ar draws y byd.

Roedd y geiriau yn gymharol niwtral, ond fe fydd dehongli mawr arnyn nhw o gofio’r helynt a fu ar ôl i’r Prif Weinidog, David Cameron, awgrymu ei bod hi wrth ei bodd pan fethodd y bleidlais annibyniaeth.

‘Siom a rhyddhad’

“Yn yr Alban, ar ôl y refferendwm, roedd llawer yn teimlo siomedigaeth fawr, tra bod eraill yn teimlo rhyddhad mawr,” meddai’r Frenhines.

“Bydd pontio’r gwahaniaethau hyn yn cymryd amser.”

Dyma’r ail dro iddi roi sylw ar y refferendwm – yn ystod yr ymgyrch ei hun, roedd wedi dweud wrth bobol yr Alban am ystyried yn ofalus, heb wneud yn glir ar ba ochr yr oedd hi.