Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon yn galaru echdoe
Mae miloedd o bobol wedi bod yn dangos eu parch at feirwon Glasgow mewn eglwysi yn y ddinas.
Fe gafodd canhwyllau eu cynnau a gweddïau eu dweud i gofio am y chwech a gafodd eu lladd pan redodd lorri sbwriel tros balmentydd prysur.
Yn ôl clerigwr yn Eglwys Gadeiriol Glasgow, roedd mwy o bobol nag arfer wedi bod yn troi i mewn i wasanaethau yn ystod yr wythnos hon.
“Mae pobol yn dweud eu bod eisiau dod at ei gilydd i weddïo a dangos undod gyda’r rhai sy’n galaru a’r rhai sy’n diodde’ trawma,” meddai’r Gwir Barchedig Kelvin Holdsworth.
Mae pedwar o bobol yn dal i fod yn yr ysbyty wedi eu hanafu, gan gynnwys merch 14 oed sy’n ddifrifol wael, a dyn 57 oed – gyrrwr y lorri.
- Fe fethodd Archesgob Caergaint â thraddodi ei bregeth heddiw, oherwydd salwch. Roedd wedi bwriadu sôn am yr angen am newid gwirioneddol yn y byd.