Lorraine Sweeney, gyda'i hwyres Erin McQuade
Mae Archesgob Glasgow wedi dweud wrth wasanaeth coffa ei fod wedi wylo gyda mam un o’r rhai a gafodd eu lladd gan lori sbwriel ddydd Llun.
Dywedodd yr Archesgob Philip Tartaglia fod teulu Erin McQuade, 18, yn eu dagrau oherwydd eu colled.
Bu farw ei mam-gu Lorraine Sweeney a’i thad-cu Jack Sweeney yn y digwyddiad.
Yn ôl adroddiadau, roedd Jacqueline McQuade wedi mynd i nôl arian ar gyfer siopa Nadolig pan gafodd y tri eu taro gan y cerbyd.
Bu farw Stephanie Tait, Jacqueline Morton a Gillian Ewing hefyd.
Clywodd y gwasanaeth am y “panic ac anhrefn, y sioc a’r tristwch” yn dilyn y trychineb.
Dywedodd yr Archesgob fod y ddinas wedi troi’n “ddinas o dristwch a galar”.
Mae merch 14 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, ac mae pedwar arall yn parhau i dderbyn triniaeth.
Mae tair dynes ac un dyn mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.
Roedd mwy na 600 o bobol yn y gwasanaeth coffa heddiw, lle cafodd gweddïau eu rhoi.
Roedd Dirprwy Brif Weinidog yr Alban John Swinney, arweinydd Cyngor Dinas Glasgow Gordon Matheson a phrif gwnstabl Heddlu’r Alban Syr Stephen House ymhlith y gynulleidfa.
Dywedodd yr Archesgob: “Ar noson y drasiedi, ces i’r fraint o gael dreulio ychydig o amser gydag un o’r teuluoedd oedd wedi’u chwalu gan y digwyddiad.
“Ces i weld a rhannu galar a thristwch mam a dad am eu merch, a dwy ferch am eu mam a’u tad.”
Dywedodd nad oes modd dychmygu’r “erchylltra” o weld aelodau’r teulu’n cael eu lladd.