Mae nifer o Brydeinwyr ymhlith oddeutu 100 o bobol sydd wedi cael eu hachub yn dilyn llifogydd ym Malaysia.
Aethon nhw’n sownd yn Mutiara Taman Negara wedi i lefel dŵr afon Sungai Tembeling godi’n sylweddol.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw a chafodd y teithwyr eu cludo i ganolfan arbennig cyn cael eu symud i dref Jerantut mewn hofrennydd.
Derbyniodd y teithwyr becynnau bwyd gan drigolion lleol.
Mae lluniau o’r llecyn gwyliau wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Twitter.