Safle'r ddamwain yn Glasgow
Mae merch 14 oed ymhlith pump o bobl gafodd eu hanafu mewn damwain lori sbwriel yn Glasgow.

Mae’r ferch yn cael triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Glasgow lle mae hi mewn cyflwr “difrifol ond sefydlog.”

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar ôl i lori sbwriel golli rheolaeth a tharo siopwyr Nadolig yn Sgwâr George yn y ddinas ddydd Llun.

Bu farw chwech o bobl a chafodd 10 o bobl eu hanafu.

Mae Bwrdd Iechyd Glasgow a Clyde wedi cadarnhau heddiw bod pump o gleifion yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty.

Mae dwy ddynes, 18 a 64 oed, mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Brenhinol Glasgow, tra bod dynes arall 49 oed a dyn 57 oed mewn cyflwr sefydlog mewn dau ysbyty arall yn y ddinas.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r ddamwain.