Plismones yn gadael blodau ger safle'r ddamwain yn Glasgow
Mae Heddlu’r Alban wedi dweud bod pum dynes ac un dyn wedi’u lladd ar ôl i lori sbwriel golli rheolaeth yng nghanol dinas Glasgow ddoe.

Cafodd 10 o bobl eraill eu hanafu ar ôl i’r lori wyro ar y pafin cyn dod i stop ar ôl taro yn erbyn gwesty bnawn ddoe.

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 2.30 bnawn dydd Llun yn Sgwâr George a oedd yn llawn o siopwyr Nadolig.

Mewn datganiad dywedodd yr heddlu: “O ganlyniad i’r gwrthdrawiad, bu farw chwech o bobl a chafodd 10 o bobl eu hanafu, gan gynnwys gyrrwr y lori.

“Cafodd saith o bobl eu cludo i’r ysbyty gan y gwasanaeth ambiwlans, aeth dau i’r ysbyty eu hunain a chafodd un person eu trin ar y safle. Mae pedwar o bobl bellach wedi gadael yr ysbyty.

“Mae chwech o bobl yn parhau yn yr ysbyty ac yn cael triniaeth am eu hanafiadau. Mae dau wedi cael eu symud i’r uned gofal dwys.

“Roedd dyn a phum menyw ymhlith y rhai fu farw.”

Er nad yw’r heddlu wedi cyhoeddi enwau’r rhai fu farw mae teyrngedau wedi cael eu rhoi ar wefannau cymdeithasol i Jack a Lorraine Sweeney o Dumbarton, a’u hwyres Erin McQuade, a oedd yn ei harddegau.

Mae torchau o flodau wedi cael eu gadael ger y safle wrth i’r heddlu barhau gyda’u hymchwiliad i ddarganfod sut yr oedd y lori wedi colli rheolaeth.

Credir bod gyrrwr y lori wedi cael ei daro’n wael wrth deithio ar hyd Stryd y Frenhines gan daro nifer o bobl cyn taro Gwesty’r Millennium yn Sgwâr George.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Glasgow bod dau aelod arall o’r criw yn teithio yn y lori pan ddigwyddodd y ddamwain ond nid ydyn nhw’n gwybod beth yw cyflwr y ddau ddyn.

Mae’r goleuadau Nadolig wedi cael eu diffodd yn Sgwâr George ac mae baneri ar hanner mast ar adeiladau cyhoeddus yn y ddinas.