Mae’n edrych yn debyg y gall yr SNP ennill dros 54 o seddi yn yr etholiad cyffredinol nesaf yn yr Alban os yw canlyniadau’r polau piniwn diweddaraf yn gywir.

Mae canlyniad pôl piniwn gan Survation yn nodi fod 48% o’r rhai a holwyd yn yr Alban am bleidleisio i’r SNP, gyda 24% i’r Blaid Lafur, a 16% i’r Ceidwadwyr. Mae hyn yn gynnydd aruthrol yn nifer y rhai sy’n gefnogol i blaid Nicola Sturgeon ers y refferendwm dros annibyniaeth ym mis Medi eleni.

Os yw’r duedd hwn am barhau, gall yr SNP ddal cydbwysedd grym yn San Steffan yn y senedd nesaf, gyda’r Blaid Lafur yn gorfod ffurfio clymblaid gyda chenedlaetholwyr yr Alban er mwyn sicrhau’r allweddi i 10 Downing Street.

Bu’r SNP, Plaid Cymru a’r Blaid Werdd yn cyfarfod wythnos diwethaf ac fe wnaethpwyd datganiad ar y cyd, yn cyhoeddi, os fydd senedd grog, eu bod yn gwrthwynebu adfer Trident a thoriadau pellach yng nghyllideb y wlad.
Mae’r SNP eisoes wedi cau’r drws yn llwyr ar glymbleidio gyda’r Blaid Geidwadol.