Mae cynllun gwerth £35 miliwn a fyddai’n creu dros 1,000 o swyddi trafnidiaeth wedi cael ei ddatgelu gan Gyngor Sir Gâr.

Cafodd y cynllun pum mlynedd ei lunio gan y cyngor fel rhan o Gynllun Trafnidiaeth Lleol Llywodraeth Cymru.

Mae’n cynnwys tri phrosiect mawr i wella ffyrdd a lleihau traffig yn ardaloedd Cross Hands, gorllewin Caerfyrddin a Rhydaman. Mae bwriad hefyd i wella gorsaf rheilffordd Llanelli.

“Mae’r newyddion am y gwelliannau hir ddisgwyliedig yn newyddion cyffrous iawn,” meddai’r cynghorydd Colin Evans.

Bydd y cynlluniau yn cael eu cyflwyno i’r Llywodraeth cyn diwedd mis Ionawr 2015.