Theresa May
Mae dwsinau o ddioddefwyr a gafodd eu cam-drin wedi croesawu awgrym gan Theresa May y gallai panel sy’n cynnal ymchwiliad i achosion hanesyddol o gam-drin gael ei ddileu.

Bwriad yr Ysgrifennydd Cartref yw sefydlu panel newydd gyda grymoedd ychwanegol i ail-gydio yn yr ymchwiliad.

Mae Theresa May wedi ysgrifennu at aelodau’n panel i son am ei chynlluniau i roi pwerau statudol i’r ymchwiliad gan gynnwys yr hawl i orfodi tystion i roi tystiolaeth.

Mae nifer o aelodau’r panel wedi mynegi eu siom ynglŷn â’r posibilrwydd o ddileu’r panel ond mae mwy na 60 o ddioddefwyr a’u cynrychiolwyr yn cefnogi’r cynlluniau a allai olygu bod yr ymchwiliad yn dechrau o’r newydd.

Nid oes gan yr ymchwiliad gadeirydd ar hyn o bryd ar ôl i ddwy gafodd eu penodi i’r swydd, Fiona Woolf a’r Farwnes Butler-Sloss, gamu o’r neilltu.