Fe fydd dyn yn ymddangos gerbron llys heddiw, wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes gafodd ei thrywanu i farwolaeth yn ystod oriau brys.
Fe fydd Trevor Gibbon, 48, o Harrow, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Hendon.
Fe gafodd ei gymdoges, Alison Morrison, ei lladd fore dydd Iau, wrth iddi fynd am ei gwaith. Fe ddaeth galwadau gan gymdogion eraill yn dweud eu bod wedi clywed sgrechian annaearol am chwarter i wyth o bore.
Cludwyd Mrs Morrison i Ysbyty’r Santes Fair yn Paddington, ond bu farw yno o’i hanafiadau.