Mae dyn yn y ddalfa gan Heddlu Glannau Merswy, ar amheuaeth o lofruddio heddwas oedd ar noson allan yn ninas Lerpwl.
Ddoe, roedd yr heddlu’n ceisio darganfod os oedd Neil Doyle, 36, wedi cael ei dargedu oherwydd fod rhywun wedi ei adnabod o’i waith.
Fe ymosododd tri dyn arno pan oedd ar noson allan gyda chydweithwyr o Heddlu Glannau Mersi. Roedd i fod i fynd ar ei fis mêl y mis nesa’.
Ond neithiwr, fe gerddodd dyn 28 mlwydd oed i mewn i swyddfa’r heddlu, ac mae’n parhau i gael ei holi gan swyddogion.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu Glannau Mersi fod yr heddlu yn ymchwilio i’r posibilrwydd fod y dynion ill tri wedi cael eu targedu oherwydd eu gwaith. Mae dau gydweithiwr Neil Doyle wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau i’w hwynebau.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Syr Jon Murphy fod ei bod hi’n “ddyddiau cynnar iawn” ar yr ymchwiliad.