Michael Morris Morgan (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae heddlu yn y brifddinas yn apelio am wybodaeth er mwyn ceisio dod o hyd i Michael Morris Morgan.
Mae plismyn yn awyddus i siarad ag ef mewn cysylltiad a lladrad masnachol ym Mhontcanna, Caerdydd, ddiwedd Tachwedd.
Mae Michael Morgan, 40, yn hanu o Bont-y-pwl, ond mae Heddlu De Cymru o’r farn ei fod yn dal i fod yn ardal Caerdydd.
Maen nhw’n gofyn i unrhyw un sy’n gwybod lle mae e, i ffonio’r rhif 101, neu gysylltu’n ddienw gyda Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.