Alex Salmond
Mae Alex Salmond wedi awgrymu y gallai’r SNP bleidleisio ar faterion yn San Steffan sydd heb fod yn ymwneud â’r Alban petaen nhw’n cytuno i gefnogi llywodraeth Lafur leiafrifol.
Ar hyn o bryd mae gan yr SNP arferiad sy’n golygu nad ydyn nhw’n pleidleisio yn San Steffan ar faterion sydd wedi eu datganoli’n llwyr.
Ond fe awgrymodd cyn-arweinydd y blaid y gallai hynny newid petaen nhw’n dod i gytundeb gyda Llafur ar ôl yr etholiad cyffredinol yn 2015.
Mae Alex Salmond yn gobeithio cael ei ethol fel Aelod Seneddol dros yr SNP i San Steffan ym mis Mai, ar ôl penderfynu gadael Senedd yr Alban yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth.
Senedd grog
Dywedodd Alex Salmond mewn cyfweliad ym mhapur yr Independent ei fod yn disgwyl senedd grog ar ôl yr etholiad nesaf, sefyllfa ble fyddai ddim gan yr un blaid fwyafrif.
Mewn sefyllfa o’r fath fe fyddai’r blaid fwyaf yn gorfod ceisio cydweithio â phleidiau llai er mwyn pasio deddfau.
Un sefyllfa posib fyddai cytundeb rhwng Llafur a phleidiau chwith llai fel yr SNP, Plaid Cymru a’r Blaid Werdd – fe gafodd hynny ei awgrymu gan arweinwyr y pleidiau llai yn San Steffan yr wythnos yma.
Ac yn y sefyllfa honno fe fyddai’r SNP yn ystyried newid ei safbwynt ar bleidleisio ar faterion sydd ddim yn ymwneud â’r Alban, yn ôl Alex Salmond.
‘Cyfle’
“Bydd llawer o bethau sydd yn dod ar draws ddesg San Steffan fydd o fawr o bwys i bobol yr Alban, ond a fydd yn bwysig iawn i lywodraeth y dydd,” meddai Alex Salmond.
Dywedodd y byddai senedd grog hefyd yn gyfle i’r SNP sicrhau pwerau ychwanegol i’r Alban.
“Byddai hynny yn gyfle i roi i’r Alban beth gafodd ei addo i ni [adeg y refferendwm],” ychwanegodd Alex Salmond.