Milwyr Pacistan (Llun llyfrgell - PA)
Mae lluoedd Pacistan yn dweud eu bod wedi lladd 67 o eithafwyr yn rhanbarth mynyddig y Khyber – hynny’n ddial am yr ymosodiad a laddodd 148 o blant ac oedolion mewn ysgol.

Roedd milwyr ar y ddaear ac awyrennau wedi ymosod mewn dwy ardal yn agos at y ffin gydag Afghanistan.

Dyma’r ymateb cynta’ wrth i Lywodraeth Pacistan addo gweithredu llymach yn erbyn y Taliban ac eithafwyr eraill, yn sgil yr ymosodiad ar yr ysgol yn ninas Peshawar.

Mae honno’n agos at y Khyber ac mae’n arferol i wrthryfelwyr ymosod arni o’r mynyddoedd a dianc yn ôl yno wedyn.

Lladd arweinydd

Fe hawliodd y lluoedd eu bod wedi lladd un o arweinwyr y Taliban lleol mewn cyrch arall  yn Baluchistan, un o daleithiau’r de.

Mae dedfryd o farwolaeth hefyd wedi ei rhoi ar chwech o garcharorion eithafol a’r tebygrwydd yw y byddan nhw’n cael eu crogi’n fuan iawn.