Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud ag arfau yn dilyn adroddiadau bod dryll wedi cael ei danio ger ysgol yn Swydd Dorset.
Cafodd y dyn ei arestio ger ysgol Highcliffe yn Christchurch ger Bournemouth toc wedi canol dydd heddiw.
Cafodd yr ysgol ei chau dros dro yn dilyn y digwyddiad, a chafodd staff a disgyblion eu cloi i mewn yn yr adeilad i’w cadw’n ddiogel.
Ni chafodd unrhyw un ei anafu.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi cael eu galw yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi anelu dryll at weithwyr oedd yn trwsio ffens ger yr ysgol.
Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd yr ysgol nad oedd achos i boeni a bod y disgyblion yn ddiogel.