Llys y Goron Abertawe
Ni fydd achos yn erbyn gweinidog o Sir Gaerfyrddin, oedd wedi ei gyhuddo o gyflawni trosedd ryw ar blentyn, yn parhau.

Cafodd Gwyn Ieuan Morgan, 82, o Gaerfyrddin, ei arestio ym mis Medi ar gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar blentyn.

Roedd honiad fod y drosedd wedi ei chyflawni ar fachgen dan 14 oed yn yr 1980au, ond nid oedd yr erlyniad yn Llys y Goron Abertawe wedi medru darparu tystiolaeth i brofi hynny.

Cyhoeddwyd y byddai’r achos yn cael ei ollwng yn swyddogol.

Bu Gwyn Ieuan Morgan yn weinidog yng nghapeli Bryn Iwan ger Cynwyl Elfed a Moreia ym Mlaenwaun ger San Clêr am dros 40 o flynyddoedd.

Cafodd ei atal o’i waith ar ôl iddo gael ei arestio.