Mae Heddlu Scotland Yard yn ymchwilio i’r cyswllt rhwng llofruddiaeth honedig tri o fechgyn a chylch o bedoffiliaid yn San Steffan ddiwedd y 1970au a’r 1980au.

Mae’r heddlu wedi apelio ar ddioddefwyr a thystion i roi gwybodaeth iddyn nhw am y cylch o bedoffiliaid fel rhan o ymchwiliad Midland.

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n awyddus i siarad â phobol oedd yn ymweld yn gyson ag ardal Pimlico yn ystod y 1970au.

Digwyddodd y troseddau honedig, yn ôl yr heddlu, mewn amryw leoliadau yn Llundain a’r siroedd cyfagos, gan gynnwys safleoedd milwrol.

Yn ôl un dioddefwr, cafodd ei gamdrin pan oedd rhwng saith ac 16 oed mewn amryw leoliadau, gan gynnwys fflat yn Dolphin Square yn Pimlico.

Dywedodd fod dynion unigol a grwpiau o ddynion wedi’i gamdrin, a’i fod yn adnabod bechgyn ifainc a gafodd eu camdrin mewn partïon yn yr ardal.

Dydy’r heddlu ddim wedi datgelu rhagor o fanylion am y tri bachgen a gafodd eu llofruddio.

Fis diwethaf, dywedodd dyn 69 oed, Vishambar Mehrotra ei fod yn credu bod ei fab wyth oed wedi cael ei lofruddio gan gylch o bedoffiliaid 33 o flynyddoedd yn ôl.

Honnodd fod ei fab wedi cael ei gipio a’i gludo i westy Elm Guest House yn ne-orllewin Llundain yn 1981.

Dywedodd fod Heddlu Llundain wedi gwrthod ymchwilio i’r honiadau ar y pryd, gan fod yr honiadau’n ymwneud â barnwyr a gwleidyddion, er bod ganddo recordiad o sgwrs ffôn oedd yn dweud bod ei fab wedi cael ei gipio.

Cafodd gweddillion ei fab eu darganfod yn 1982 ar dir anghysbell yn Rogate ar y ffin rhwng Swydd Hampshire a Gorllewin Swydd Sussex.