Llun o un o'r arwyddion yn archfarchnad Tesco Llun: Aaron Davies
Mae ’na alwadau cynyddol ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cwmnïau mawr fel Tesco yn gwella safon y Gymraeg yn eu siopau, wedi i gwsmer 18 oed ddod ar draws arwyddion oedd yn frith o gamgymeriadau sillafu yn ei siop leol.

Wedi i Aaron Davies o Lanrwst anfon cwyn i wasanaeth cwsmeriaid Tesco, am y cam-sillafu ar arwyddion Tesco yng Nghyffordd Llandudno, cafodd ateb yn ôl oedd yn cynnwys hyd yn oed mwy o gam-sillafu:

“Ar ôl imi ddod o hyd i’r camgymeriadau gwirion yma, e-bostiais i luniau o’r arwyddion a neges i wasanaeth cwsmeriaid Tesco – i gwyno am y diffyg parch a’r diffyg canolbwyntio sydd gan y tîm cyfieithu,” meddai Aaron Davies.

“Ar ôl tua 24 awr, ges i e-bost yn ôl gan swyddog, yn Gymraeg, yn sôn am sut oedd hi’n delio hefo fy nghwyn.

“Roeddwn i’n hynod o flin o weld brawddegau fel: ‘Diolch i chi am gysylltu â ni ac rwy’n gobeithio y byddwch yn e-bost hwn darganfyddiadau yn dda’.”

Ar ddechrau’r flwyddyn, fe ddywedodd Cymdeithas yr Iaith bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu “trin yn eilradd” yng Nghymru, yn dilyn achos lle nad oedd archfarchnad  ym Mangor yn medru rhoi meddiginiaeth i  fachgen bach 15 mis oed am fod y persgriptiwn yn Gymraeg.

Dyletswydd

Yn ôl Aaron Davies, sy’n ddisgybl yn chweched dosbarth Ysgol Dyffryn Conwy, mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cwmnïau mawr yn cyflogi cyfieithwyr proffesiynol.

Ychwanegodd ei fod wedi cael llond bol o weld cwmnïau fel Tesco yn derbyn arian y Cymry, heb roi chwarae teg i’r iaith.

“Mae’r gwasanaeth cwsmeriaid yn dweud mai Tesco yw’r ‘manwerthwr mwyaf’ yng Nghymru felly yn sicr mae ganddyn nhw ddigon o arian i gyflogi cyfieithydd safonol yn hytrach na defnyddio google translate.

“Mae’r hyn mae Tesco yn ei wneud yn warthus, yn siom i’n hiaith. Mae hefyd yn gywilydd i ni fel cenedl gan ein bod ni’n methu gorfodi cwmnïau mor fawr i ddefnyddio’n heniaith. Yn sicr, mae’n gwneud i fy mol droi,”

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth weithredu a chymryd camau mwy pendant er mwyn sicrhau defnydd safonol o’r Gymraeg, yn enwedig gan gwmnïau mor fawr.”

Ymateb Comisiynydd y Gymraeg

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: “Mae’n ymddangos bod Tesco wedi defnyddio system gyfieithu mecanyddol mewn ymgais i ateb yr e-bost yn y Gymraeg.

“Heb brawf-ddarllen trylwyr, barn y Comisiynydd yw na ddylid defnyddio systemau o’r fath.

“Byddwn yn annog Tesco i ddefnyddio cyfieithydd cymwys, naill ai i gyfieithu eu deunydd print, arwyddion ac e-byst, neu i ddefnyddio prawf-ddarllenydd cymwys i adolygu unrhyw beth sydd wedi ei gyfieithu’n fecanyddol.”

Mae golwg360 wedi cysylltu â Tesco am ymateb ac wedi gofyn faint mae’r cwmni yn ei wario ar gyfieithu arwyddion ar hyn o bryd.