Mae doctor a dwy nyrs wedi cael eu cyhuddo o ddynladdiad o ganlyniad i esgeulustod dybryd yn dilyn marwolaeth bachgen chwech oed fu farw yn yr ysbyty yn 2011.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod wedi penderfynu cyhuddo’r tri yn dilyn marwolaeth Jack Adcock, o Glen Parva, Swydd Caerlŷr ar ôl ystyriaeth gofalus o’r dystiolaeth yn ymwneud a’r driniaeth a’r gofal a gafodd y bachgen.

Bu farw Jack Adcock, a oedd yn dioddef o Syndrom Down’s a phroblemau iechyd eraill, o niwmonia yn Ysbyty Brenhinol Caerlŷr ar 18 Chwefror 2011.

Roedd wedi mynd i’r ysbyty yn dioddef o’r dolur rhydd a thaflu fyny.

Fe fydd Dr Hadiza Bawa-Garba, y brif nyrs Theresa Taylor a’r nyrs Isabel Amaro yn mynd gerbron Llys Ynadon Caerlŷr ar 23 Ionawr.