Synod Gyffredinol Eglwys Loegr
Mae disgwyl i Eglwys Loegr gyhoeddi ei bod wedi ethol ei hesgob benywaidd cyntaf heddiw.
Credir y bydd offeiriad benywaidd yn cael ei dyrchafu’n esgob ar ôl i Synod Gyffredinol yr Eglwys Anglicanaidd gymeradwyo’r ddeddfwriaeth fis yn ôl.
Roedd mwyafrif wedi cymeradwyo’r newid yn y gyfraith ganonaidd mewn cyfarfod yn Llundain fis diwethaf, 20 mlynedd ers i’r merched cyntaf gael eu hordeinio yn offeiriaid Eglwys Loegr.